Mae senedd Wcráin wedi gwahardd ysmygu yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus cyn y bencampwriaeth bêl-droed Ewro 2012 ym mis Mehefin.

Heddiw fe gymeradwyodd yr Aelodau Seneddol i wahardd ysmygu mewn ysgolion, colegau, ysbytai, bwytai, amgueddfeydd a mannau cyhoeddus fel gorsaf bysiau.  Bydd mannau arbennig i ysmygu mewn llefydd fel meysydd awyr, gwestai, ystafelloedd cysgu a swyddfeydd.

Mae gan yr Arlywydd Viktor Yanukovych 10 diwrnod i naill ai llofnodi’r rheol neu i’w ddanfon yn ôl i’r senedd.

Mae ysmygu’n gyffredin iawn yn yr Wcráin – yn ôl y Weinidogaeth Iechyd, mae 22% o bobl dros 12 oed yn ysmygu.

Mae’r Wcráin yn cyd-gynnal y bencampwriaeth â Gwlad Pwyl ac yn ymdrechu i sicrhau bod ei deddfau yn unol â safonau Ewropeaidd.