Leigh Halfpenny
Mae cefnwr Cymru a Chaerdydd Leigh Halfpenny yn edrych ymlaen at gydweithio gyda hyfforddwr newydd y Gleision Phil Davies y tymor nesaf.

Ar hyn o bryd mae Halfpenny yn ymarfer gyda’r garfan ryngwladol cyn ei thaith i Awstralia.

Mae Phil Davies wedi mwynhau llwyddiant gyda Leeds, Scarlets ac yn ddiweddar gyda Chaerwrangon.

‘‘Fe wnaeth Phil arwain y Scarlets i rownd gynderfynol y Cwpan Heineken, ac mae wedi bod yn hynod o dda yng Nghaerwrangon.  Rydym eisoes wedi cael cyfarfod tîm ac mae’n edrych  yn addawol,’’ meddai Halfpenny.

‘‘Mae ganddo lawer o syniadau da, a chynlluniau ar y gweill, yr oedd yn gyffrous i glywed y rhain.  Rwy’n siŵr y bydd yn rhoi llawer o strwythur i’n garfan ifanc sy’n fodlon i weithio’n galed ac i ddysgu ac i fod y gorau y gallant.  Phil yw’r dyn i gyfarwyddo’r garfan, ac mae am gyflawni pethau da yma,’’ ychwanegodd Halfpenny.

Mae nifer o chwaraewyr Cymru wedi cael eu denu i Ffrainc oherwydd y cytundebau ariannol mawr, ond mae Halfpenny yn mynnu bod ei ddyfodol yn ddiogel gyda’r Gleision ar y funud.

‘‘Rwy’n hapus i chwarae dros y Gleision, a dyna’r cyfan rwyf yn canolbwyntio arno ar y funud yw chwarae’n dda dros y rhanbarth,’’ dywedodd Leigh Halfpenny.

‘‘Pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Ond am nawr, rwy’n canolbwyntio’n unig ar fy ngwaith yma yng Nghaerdydd,’’ meddai’r cefnwr.