Ni fydd hawl gan glwb rygbi Cymry Llundain ddringo i uwchgynghrair Lloegr hyd yn oed os byddan nhw’n curo Môr-ladron Cernyw i orffen ar frig adran gyntaf Lloegr.

Mae Undeb Rygbi Lloegr wedi dweud heddiw nad yw Cymry Llundain wedi cwrdd â’r anghenion angenrheidiol ar gyfer chwarae yn yr uwchgynghrair, yn rhannol am nad ydyn nhw’n berchen ar y cae yr oedden nhw am ei ddefnyddio yn Rhydychen.

Mae gan y clwb hawl i apelio o fewn 14 diwrnod.

Os saif y penderfyniad bydd clwb Newcastle, a orffennodd ar waelod uwchgynghrair Aviva, yn cael aros yn yr uwchgynghrair.

“Ffars”

Heno mae Cymry Llundain yn cwrdd â Môr-ladron Cernyw yng ngêm gyntaf y ffeinal ac mae nifer o bobol wedi bod yn trydar eu hanniddigrwydd am y penderfyniad, a’i amseriad oriau cyn gêm mor fawr.

“Am ffars gan yr RFU – dylai Cymry Llundain apelio” meddai Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd Kevin Brennan, cyn ychwanegu

“Os yw Gwyddelod Llundain yn cael rhannu cartref gyda thîm pêl-droed yna pam ddim Cymry Llundain?”