Dylan Ebenezer
Wrth i dîm pêl-droed Cymru baratoi i wynebu Mecsico yn yr Unol Daleithiau dros y penwythnos, mae cwmni cynhyrchu teledu o’r gogledd yn paratoi i ddarlledu’r gêm yn fyw o Gaernarfon i gynulleidfaoedd drwy Gymru.

Fe fydd Rondo Media yn derbyn lluniau byw o’r gêm bêl-droed gyfeillgar drwy loeren o Stadiwm MetLife ger Efrog Newydd i mewn i bencadlys y cwmni cyn ei ddarlledu’n syth i S4C.

Rondo sy’n cynhyrchu Sgorio, gwasanaeth pêl-droed S4C, a daw’r rhaglen dydd Sul o Efrog Newydd a chanolfan newydd y cwmni ar stâd ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon.

Dylan Ebenezer fydd yn arwain y tîm cyflwyno a chynhyrchu yn stadiwm MetLife yn yr Unol Daleithiau tra bod Morgan Jones yn cyflwyno o stiwdio Sgorio yng Nghaernarfon ynghyd â chyn-chwaraewyr rhyngwladol John Hartson a Dai Davies.

Dyma’r tro cyntaf i Rondo ddarlledu gêm dramor yn fyw drwy ei ganolfan gyfryngau yng Nghaernarfon. Yn ddiweddar fe fuddsoddodd y cwmni £600,000 i adnewyddu a gwella ei swyddfeydd gan ychwanegu ystod o gyfleusterau darlledu gan gynnwys stiwdio, ystafelloedd golygu a dysglau loeren.

Fe osodwyd linc ffibr-optig newydd hefyd rhwng y cyfleuster yng Nghaernarfon a phencadlys S4C yng Nghaerdydd a hyn sy’n galluogi Rondo i ddarlledu’n fyw ar y sianel.

Dywedodd uwch-gynhyrchydd Sgorio, Emyr Davies: “Dyma’r tro cyntaf i ni ddefnyddio ein cyfleusterau ein hunain i dderbyn lluniau byw o dramor a’u pasio nhw lawr y lein i S4C.

“Yn y gorffennol roedden ni’n defnyddio cyfleusterau Barcud ond ers iddyn nhw’n anffodus fynd i’r wal ry’ ni wedi gorfod buddsoddi’n drwm yn ein cyfleusterau technegol ein hunain. Wedi dweud hynny, mae genno ni dîm technegol hynod o brofiadol yn gweithio gyda’r offer diweddaraf – felly os oes rhywbeth yn mynd o’i le, a  gobeithio ddim, yna bai y tywydd fydd e!”

Bydd darllediad Sgorio o’r gêm yn cychwyn ar S4C am 7.45yh dydd Sul.