Katherine Jenkins
Mae’r seren opera Katherine Jenkins wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth ddawnsio yn America, Dancing with the Stars.

Y chwaraewr pêl-droed Americanaidd Donald Driver a gipiodd y wobr neithiwr, er i Katherine Jenkins, 31, sy’n dod o Gastell-nedd, gael marciau llawn yn y rownd derfynol gyda’i phartner Mark Ballas.

Roedd yr actor William Levy hefyd ymhlith y tri olaf.

Y gwylwyr oedd y gyfrifol am ddewis yr enillydd.