Mae oriel gelf Mostyn yn Llandudno wedi penodi Curadur newydd i’w rhaglen gelf weledol.

Fe anwyd Adam Carr yng Nghaer, ond mae wedi trefnu arddangosfeydd ar draws y byd, gan gynnwys Awstria, gwlad Belg, Ffrainc, Yr Almaen, yr Unol Daleithiau, Lithwania a Mecsico.

“Mae’n bleser mawr ymuno gyda Mostyn, ar ôl bod yn ymweld â’r oriel ers yn blentyn,” meddai Adam Carr. “Mae’r lle wedi cael dylanwad cryf ar fy ngwaith fel curadur.

“Rwy’n edrych ymlaen i gyfrannu i weledigaeth Mostyn yn yr amser cyffrous yma yn ei esblygiad, gyda’r ehangiad ac ailddatblygiad diweddar, a gydag apwyntiad Alfredo Cramerotti yn Gyfarwyddwr newydd.”

Yn ogystal â’i waith fel cruadur, mae’n awdur toreithiol wedi ysgrifennu nifer o gatalogau arddangosfeydd, monograffau artistiaid a chyhoeddiadau celf yn fyd-eang. Mae’n gyfrannwr erthyglau cyson i Cura, Flash Art, Mousse a Spike Art Quarterly.