Fe fu na ostyngiad o 2.3% yng ngwerthiant y stryd fawr ym mis Ebrill, a hynny’n bennaf oherwydd cwymp sylweddol mewn gwerthiant petrol, yn ôl ystadegau heddiw.
Roedd gwerthiant tanwydd wedi gostwng 13.2% ym mis Ebrill. Ym mis Mawrth, roedd gyrwyr wedi rhuthro i brynu tanwydd oherwydd pryderon bod gyrwyr tanceri tanwydd am fynd ar streic.
Roedd y glaw hefyd wedi cael effaith ar werthiant dillad ac esgidiau. Roedd y cwymp yn fwy na’r disgwyl ar ôl i werthiant gynyddu 2% ym mis Mawrth.