Robin Gibb, a fu farw Mai 20
Bu farw Robin Gibb – y canwr a fu, gyda’i frodyr Maurice a Barry, yn rhan o’r grwp y Bee Gees. Roedd yn 62 mlwydd oed ac wedi bod yn ymladd canser ers blynyddoedd.
Mae’r band wedi gwerthu dros 200 miliwn o recordiau ar draws y byd, ac yn enwog am ganeuon fel ‘Tragedy’, ‘Massachusetts’, ‘How Deep is your Love’ a ‘Stayin’ Alive’.
Ond roedd trychineb ar ôl trychineb wedi taro’r teulu, wrth i ddau frawd farw’n ifanc, ac wrth i Robin Gibb gilio oherwydd ei salwch. Fe wnaeth ymddangosiad ychydig cyn y Nadolig y llynedd, ond roedd yn amlwg yn sâl iawn ac wedi colli llawer o bwysau. Roedd newydd gael llawdriniaeth ar ei berfedd.
Daeth datganiad gan y teulu yn cyhoeddi “gyda thristwch mawr” ei farwolaeth, ond yn gofyn ar yr un pryd ar i’r teulu gael llonydd i ddelio â’r golled.
“Mae teulu Robin Gibb, aelod o’r Bee Gees, yn cyhoeddi gyda thristwch mawr ei fod wedi marw yn dilyn brwydr hir â chanser… Mae’r teulu’n gofyn yn garedig ar i bawb barchu eu preifatrwydd ar yr adeg anodd hon,” meddai’r datganiad.
Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi iddo gan y cyn Brif Weinidog Tony Blair, y cantorion Mick Hucknall a Bryan Adams a’r darlledwr Paul Gambaccini.