Golygfa o ffilm "The Raid"
Mae Cyfarwyddwr ifanc o Gymru yn denu sylw gwneuthurwyr ffilm trwy’r byd am ei ffilmiau sy’n dangos crefft ymladd Pencak Silat, o Indonesia.

Mae Gareth Huw Evans dod o Hirwaun ac yn gyn fyfyriwr o Brifysgol Morgannwg ble bu’n astudio am MA mewn Ysgrifennu Sgriptiau.

Symudodd i fyw i Indonesia ar ôl priodi merch o’r wlad gan gynhyrchu rhaglen ddogfen am y dull lleol o grefft ymladd.

Daeth i adnabod Iko Uwais sydd yn arbenigwr yn y maes a bellach mae’r ddau wedi gweithio ar ddwy ffilm am y math yma o ymladd ac mae’r ail, ‘The Raid: Redemption’, wedi denu cryn dipyn o sylw led led y byd.

Enillodd y ffilm wobr ‘Dewis y Bobl’ yng Ngwyl Ffilm Toronto yng Nghanada yn 2011 ac fe gafodd ei dangos yng Ngwyl Ffilm Sundance eleni.

Dywedodd yr adolygwr Peter Bradshaw yn y Guardian yr wythnos yma bod The Raid yn “gwbl honco ac yn gwbl wych.”

Pedair blynedd yn ôl roedd Gareth Evans yn creu deunydd ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar y we ond bellach mae’n gweithio efo Iko Uwais i asiantaeth WME yn yr UDA ac yn cynllunio eu ffilm nesaf.

Mae Hollywood yn debygol o ail wneud ‘The Raid’ gan chwyddo’r gyllideb wreiddiol yn arw a denu rhagor o glôd i’r Cymro ifanc.