Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni, bydd y Brifwyl, Cymru y Gwir Flas  a Chasgliad y Werin yn apelio ar bobl Cymru i rannu atgofion am fwyd a gwledda, ac anfon eitemau fel hen rysetiau teuluol o bob cwr o’r wlad atom, mewn ymgyrch arbennig, Blas y Brifwyl.

Bwriad yr ymgyrch, a fydd yn cael ei chynnal yn ystod Mai a Mehefin, yw creu casgliad yn ymwneud â bwyd, rhywbeth sydd mor ganolog i fywyd bob dydd  teuluoedd Cymreig, a’r gobaith yw derbyn atgofion am arferion bwyd a hen risetiau sydd wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth gan ddatblygu a newid wrth i bawb ychwanegu’u stamp eu hunain.

Daw’r ymgyrch i uchafbwynt yn ystod yr Eisteddfod eleni, pan fydd cegin Cymru y Gwir Flas ar y Maes yn paratoi rhai o’r risetiau yn ystod yr wythnos.

Mae’r trefnwyr yn annog pobl i lwytho’u heitemau i wefan Casgliad y Werin, yr archif genedlaethol ar-lein, sy’n gweithio gyda’r Eisteddfod unwaith eto eleni, yn dilyn ymgyrch lwyddiannus yn Eisteddfod Wrecsam a’r Fro’r llynedd, pan rannodd cannoedd o bobl Cymru eu hatgofion am Eisteddfodau’r gorffennol, wrth i’r Brifwyl ddathlu 150 mlynedd ar ei ffurf fodern.

‘Cyfoeth o gynhyrchwyr bwyd’

Meddai Alun Davies AC, y Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, ar ran Cymru y Gwir Flas, “Mae ‘na gyfoeth o gynhyrchwyr bwyd a chynhwysion arbennig yma yng Nghymru, a’n bwriad ni yw dangos sut mae pobl wedi bod yn defnyddio’r rhain dros y blynyddoedd.  Bydd hefyd yn ddiddorol gweld sut mae risetiau ar gyfer bwydydd cynhenid Cymreig yn newid o ardal i ardal ac o genhedlaeth i genhedlaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at weld enghreifftiau o hyn.

“Ar hyn o bryd rydym yn derbyn pleidleisiau yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas, ac rwy’n mawr obeithio y bydd meddwl am hoff le bwyd neu siop yn symbylu pobl i feddwl am bwysigrwydd bwyd yn eu bywydau – ryseitiau, paratoi bwyd, dathliadau a’r cynnyrch yna sydd mor arbennig yng Nghymru – ac yna’n eu hanfon atom.  Byddwn yn dewis y rhai mwyaf diddorol ac yn coginio rhywbeth gwahanol bob dydd ar y Maes yn Llandw ym mis Awst.”

‘Lobsgows’

Ychwanegodd Rheinallt Ffoster-Jones o Gasgliad y Werin, “Mae’r berthynas hon yn un gyffrous, gan ei bod yn gyfle i ni ychwanegu at ein harchif cenedlaethol ar thema sydd mor berthnasol i bawb. Mae’r traddodiadau o baratoi a mwynhau bwyd yn amrywio o fan i fan ac rydym ni’n gobeithio y bydd modd casglu’r rhain at ei gilydd gyda’r ymgyrch hon; o falu gwenith i wneud blawd, i ladd mochyn yn yr ardd gefn, casglu cocos ym Mhenclawdd a’r gwahaniaeth rhwng cawl yn y de a lobsgóws yn y Gogledd mae’r hanes ynghlwm â bwyd yn ddifyr iawn.

“Mae’r ffaith y byddwn yn cael cyfle i flasu rhai o’r risetiau ar faes yr Eisteddfod eleni yn rhan bwysig o’r ymgyrch ac yn clymu gyda darganfyddiad gan un o brif bartneriaid Casgliad y Werin, Amgueddfa Cymru.  Yn yr ugeinfed ganrif, cafwyd hyd i olion o’r Oes Efydd ar y Maes, ac mae’n ymddangos bod pobl wedi bod yn gwledda, bwyta chymdeithasu ar y Maes hwn dair mil a hanner o flynyddoedd yn ôl.  Rhywbeth i’w gofio wrth i ni fwynhau’r danteithion eleni, efallai.”

Gellir llwytho’ch rysáit ar wefan Casgliad y Werin – www.casgliadywerincymru.co.uk <http://www.casgliadywerincymru.co.uk>, neu gallwch fynd drwy wefan yr Eisteddfod – www.eisteddfod.org.uk <http://www.eisteddfod.org.uk>, neu gallwch anfon eich rysáit i Swyddfa’r Eisteddfod, 40 Parc Ty Glas, Llanisien, Caerdydd  CF14 5DU.

Ewch i www.cymruygwirflas.co.uk er mwyn pleidleisio dros eich hoff fwyty, caffi, parlwr te, siop fferm, deli, siop gig neu siop bysgod. Y dyddiad cau ar gyfer bwrw pleidlais yw 28 Mai. Bydd pob un sy’n mynd ati i enwebu yn cael ei gynnwys yn awtomatig mewn cystadleuaeth i ennill profiad bwyd seren Michelin neu hamper bwyd y Gwir Flas.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar hen faes awyr Llandw ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr o 4-11 Awst.