Fe fydd naw dyn yn cael eu dedfrydu heddiw am eu rhan mewn cymryd mantais o ferched bregus yn eu harddegau.
Cafodd pump o’r merched, oedd mor ifainc a 13 oed, eu targedu gan Kabeer Hassan, Abdul Aziz, Abdul Rauf, Mohammed Sajid, Adil Khan, Abdul Qayyum, Mohammed Amin, Hamid Safi a dyn 59 oed na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol.
Clywodd yr achos llys bod y dynion, oedd yn byw yn Rochdale ac Oldham, ger Manceinion wedi rhoi bwyd, alcohol a chyffuriau i’r merched er mwyn eu gorfodi i gael rhyw gyda nhw. Roedd un ferch 13 oed wedi beichiogi ac wedi gorfod cael erthyliad.
Fe fydd y barnwr Gerald Clifton yn dedfrydu’r dynion heddiw.