Madeleine McCann
Mae rhieni Madeleine McCann’s wedi dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw amheuaeth y bydd yr awdurdodau ym Mhortiwgal yn ail-ddechrau ymchwilio i ddiflaniad eu merch.

Mewn cyfres o gyfweliadau i nodi pum mlynedd ers i Madeleine ddiflannu, dywedodd Kate a Gerry McCann bod eu gefeilliaid Sean ac Amelie, sy’n saith oed, wedi addo y  byddan nhw’n helpu i chwilio am eu chwaer pan maen nhw’n hŷn.

Roedd Madeleine bron yn bedair oed pan ddiflannodd o’r fflat lle’r oedd y teulu’n aros tra ar wyliau yn Praia da Luz yn yr Algarve ar 3 Mai 2007. Roedd ei rhieni mewn bwyty gerllaw yn cael cinio gyda ffrindiau.

Ddoe, dywedodd y cwpl eu bod yn dal yn obeithiol o ddod o hyd i Madeleine yn fyw a’u bod nhw wedi eu calonogi gan adolygiad Scotland Yard o’r achos.

Dywedodd Gerry McCann: “Rwy’n sicr y bydd yr ymchwiliad yn ail-ddechrau yn y man. Does gen i ddim amheuaeth am hynny.”

Dywedodd Scotland Yard wythnos ddiwethaf y gallai’r dirgelwch gael ei ddatrys a bod ’na dystiolaeth y gallai Madeleine fod yn fyw.

Yr awdurdodau ym Mhortiwgal fydd y penderfynu a ddylid ail-ddechrau’r ymchwiliad ond maen nhw’n dweud nad oes “elfen newydd” i’r ymchwiliad i gyfiawnhau gwneud hynny.