Mae dyn mewn cyflwr difrifol mewn ysbyty yn Birmingham ar ôl cael ei drywanu ynghanol y ddinas yn ystod oriau man y bore yma.

Cafodd tri o bobl ifanc, un ferch 16 oed a dau fachgen 15 ac 16 oed eu harestio gan yr heddlu yn ystod y bore ac mae nhw wrthi’n cael eu holi am y digwyddiad.

Cafodd plismyn eu galw i ardal Belgrave Middleway tua un o’r gloch y bore a chanfod y dyn wedi ei drywanu sawl gwaith yn gwaedu ar y pafin.

“Fe fu swyddogion o bob cwr o ardal y llu a’r hofrennydd yn chwilio camlesi ac ar hyd traciau rheilffyrdd yn fuan wedi’r digwyddiad,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.

“Cafodd merch a bachgen 16 oed eu harestio yn agos i’r fan ynghyd â bachgen 15 oed. Daethpwyd o hyd i gyllell hefyd ac mae hwnnw’n cael ei archwilio gan swyddogion fforensig ar hyn o bryd.”

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Ingram nad ydi’r heddlu yn gwybod beth achosodd yr ymosodiad ar hyn o bryd ond ychwanegodd eu bod yn trin y mater fel achos o ymgais i lofruddio.