Bydd gwyntoedd cryfion a glaw trwm mewn rhannau helaeth o Gymru a Lloegr yn ystod y nos heno ac mae’n bosib iawn y bydd rhai ardaloedd yn diodde llifogydd taro.

Dywed bwletin wythnosol Asiantaeth yr Amgylchedd bod nifer o’r ardaloedd fydd yn diodde’r tywydd garw wedi eu dynodi yn ardaloedd o sychder er eu bod wedi cael mwy na’r arfer o law yn ystod mis Ebrill a bod hyn wedi chwyddo’r afonydd a gwneud llês i gnydau a gerddi.

Er hyn, mae lefelau’r dwr sydd yn y tir yn parhau yn isel, felly dyw’r glawogydd trymion yn cael fawr o effaith ar y sychder, rhybuddiodd yr Asiantaeth.

Dywedodd un o broffwydi tywydd MeteoGroup, Aisling Creevey y bydd y tywydd ar ei waethaf yfory.

“Erbyn diwedd y prynhawn heddiw fe fydd yna gyfnodau o law mân yn Ne Lloegr a Chymru ond gyda’r nos fe fydd y glaw yn gwaethygu a bydd yna wyntoedd o hyd at 40mya yn ystod y nos. Cernyw, de-orllewin Cymru ac ardaloedd arfordirol Lincolnshire a gogledd ddwyrain Anglia fydd yn cael eu taro gan y gwyntoedd cryfaf, all godi i 50mya.”

“Yfory fe fydd yn wyntog iawn ac yn ddiwrnod gwlyb annifyr,” meddai. Ychwanegodd y gall y gwynt godi i 60mya mewn mannau.