Gareth Williams
Dywedodd y crwner yn y cwêst i farwolaeth yr ysbïwr o Fôn, Gareth Williams, y bydd o bosib yn cyhoeddi ei dyfarniad dydd Mercher nesaf.

Dywedodd Dr Fiona Wilcox pa bryd yr oedd yn gobeithio cyhoeddi ei dyfarniad ar ddiwedd cyflwyno rhagor o dystiolaeth am ei farwolaeth yn y cwêst yn Llundain dydd Gwener.

Cyn i’r cwêst gau am y dydd, cyflwynwyd tystiolaeth am gynnwys cyfrifaduron a ffonau Mr Williams gan ddau swyddog o’r heddlu.

Dywedodd y Dit. Cwn. Simon Warren mai chwilio safleoedd am ddillad merched, colur a bagiau llaw oedd yn gyfrifol am hanner y chwiliadau ar y wê a bod y cyfrifiaduron wedi cael eu defnyddio hefyd i chwilio am safleoedd yn ymwneud â chaethiwed ond mai bob hyn a hyn y digwyddodd y chwilio ac nac oedd yn ddigwyddiad cyson nac yn awgrymu diddordeb byw yn yr arfer.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw wybodaeth cudd-sensitif ar y cyfrifiaduron a dim i brofi bod y ffeiliau wedi cael eu newid ar ôl marwolaeth Mr Williams.

Dywedodd y Dit. Cwn. Robert Burrows bod ffonau Mr Williams hefyd wedi cael eu defnyddio i chwilio am safleoedd am gaethiwed ar y wê ac nad oedd data o gwbl ar smartphone oedd ar fwrdd yn ei fflat am fod lleoliadau cyfrifadurol o’r ffatri wedi cael eu hail osod arno.

Cafwyd hyd i Gareth Williams, ddisgrifwyd fel “swyddog gwybodaeth cudd o safon byd-eang” gan ei gyn bennaeth, yn farw yn ei fflat yn Llundain yn 2010.