Llys y Goron yr Wyddgrug
Cafodd dau leidr, oedd yn crwydro cefn gwlad ac wedi dwyn gwerth dros £300,00 o nwyddau o dros gant o dai, eu carcharu am saith mlynedd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrth Krzysztof Karmaciuk a Ryszard Elert sy’n dod o Wlad Pŵyl eu bod wedi dwyn gwarth ar eu cenedl.

Cafodd y ddau eu dal wedi ymgyrch gan 6 o heddluoedd yng Ngwent, Dyfed-Powys, Gogledd Cymru, Gorllewin Mercia, Witshire a Swydd Gaer ar ôl i’r ddau dargedu tai unig yng ngefn gwlad.

Fe gawson nhw eu dal wedi iddyn nhw adael olion bysedd a DNA yn y tai ac fe wnaeth y ddau bledio’n euog o gynllwynio i fwrglera. Fe wnaeth Karmaciuk hefyd bledio’n euog i 110 achos o fwrgleriaeth a Elert i 67 achos rhwng Hydref 2010 a Rhagfyr 2011.

Fe ymsodwyd ar un perchennog tŷ yn Wiltshire gan dorri ei drwyn ac un dant ar ôl iddo redeg ar eu holau.

Fe glywodd y llys mai paentio ac addurno tai oedd galwedigaeth y ddau ond eu bod wedi troi at fwrgleriaeth ar ôl methu dod o hyd i waith er mwyn anfon arian yn ôl i’w teuluoedd yng ngwlad Pwyl.

Fe fyddan nhw yn cael eu hestraddodi yn ôl i Wlad Pwyl ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o garchar.