Mae 32% o gyfranddalwyr banc Barclays wedi gwrthwynebu neu wrthod rhoi sêl bendith i gyflog eu Prif Weithredwr, yn eu cyfarfod blynyddol heddiw.

Er i Bob Diamond gyfaddef bod perfformiad y banc yn “annerbyniol” y llynedd, bu iddo dderbyn gwerth £17.7miliwn o gyflog, bonws, buddion a chyfanddaliadau.