Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi enwau’r darpar fyfyrwyr sydd wedi llwyddo i dderbyn eu prif ysgolroiaethau – sef £3,000 dros dair blynedd.

Nod yr arian yw cynnal a chynydd’r niferoedd sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru.

Mae Louise Smith wedi gwirioni ar ôl derbyn ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

“Dw i’n dod o Sgiwen, ger Castell-nedd ac dw i wedi derbyn un o’r Prif Ysgoloriaethau i astudio Crefydd a Chymdeithas. Fe ddewisais y pwnc gan fod gen i ddiddordeb mawr mewn pobl a sut mae nhw’n byw. Y peth gorau am fod yn y Brifysgol yw’r cymdeithasu! Dim ond saith ohonom ni sy’n gwneud y cwrs ac r’yn ni’n barod yn ffrindiau mawr. Mae’n braf iawn cael astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus yn ysgrifennu yn Gymraeg. Mae’n llawer o help. Ac oherwydd fy mod i’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, dw i wedi ennill un o Brif Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol!”

Mae saith o sefydliadau addysg uwch Cymru yn rhan o’r cynllun ysgoloriaethau: Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

Enwau ac ysgolion yr enillwyr:

 Alaw Ebrill Pari Ysgol Tryfan
Angharad Mai Lewis Ysgol Uwchradd Caereinion
Awen Llŷr Gwenfair Evans Ysgol Uwchradd Tregaron
Carwen Ann Richards Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan
Caryl Angharad Roberts Ysgol Dyffryn Nantlle
Catrin Fflur Howells Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
Catrin Reynolds Ysgol Dyffryn Teifi
Ceris Mair James Ysgol Dyffryn Teifi
Cerys Llewellyn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Efa Mared Edwards Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
Elin Hari Hughes Coleg Meirion-Dwyfor
Elisha Diana Jones Ysgol Morgan Llwyd
Ffion Haf Jones Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Gethin Wyn Griffiths Ysgol Brynrefail
Gwenllian Beynon Davies Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Gwenno Angharad Gibbard Ysgol Brynrefail
Gwion Rhys Dafydd Ysgol y Preseli
Hanna Medi Merrigan Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa
Hannah Rachel Jones Ysgol Gyfun Rhydywaun
Heledd Gwenog Llwyd Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi
Indeg Elen Williams Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
Iwan Morus Lewis Coleg Meirion-Dwyfor

 

 Jake Wyn Edwards Ysgol y Berwyn
Laura Elizabeth Fisher Ysgol Gyfun Llanhari
Lauren Jane Evans Ysgol Uwchradd Llanidloes
Lewys Theo Wyn Evans Ysgol y Berwyn
Lisa Fflur Waters Ysgol Bro Ddyfi
Llio Mererid Jones Ysgol y Berwyn
Lois Eluned Owen Ysgol David Hughes
Lydia Jayne Harrison Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
Lydia Rose Collins Coleg Castell-Nedd Port Talbot
Manon Elwyn Hughes Ysgol Brynrefail
Manon Gwawr Williams Ysgol Dyffryn Teifi
Megan Emily Martin Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa
Mica Amy Jones Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig
Mirain Alaw Jones Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa
Miriam Glyn Coleg Meirion-Dwyfor
Nathan Ieuan Aviss Ysgol Gyfun Gwynllyw
Osian Garmon Hughes Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr
Osian Llyr Evans Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa
Owain Dafydd Huw Sion Ysgol Gyfun Gartholwg
Rhodri Aled Evans Ysgol y Preseli
Rhys Ieuan Hughes Ysgol Dyffryn Nantlle
Rhys Owain Thomas Ysgol Gyfun Gŵyr
Saran Roberts Ysgol Dyffryn Teifi
Sian Eleri Davenport Ysgol y Berwyn
Sian Miriam Parry Ysgol Gyfun Llangefni
Sioned Eleri Roberts Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa
Trystan Ap Owen Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig