Gareth Williams
Roedd Gareth Williams unai’n farw neu’n anymwybodol pan gafodd ei roi yn y bag mawr lle gafodd ei ddarganfod yn farw yn Llundain, clywodd y cwest heddiw.

Wrth i arbenigwr roi tystiolaeth ar farwolaeth yr ysbïwr o Ynys Môn heddiw, dywedodd y byddai hyd yn oed “Harry Houdini wedi ei chael hi’n anodd” i wasgu ei hun i mewn i’r bag.

Dywedodd Peter Faulding ei fod yn credu bod rhywun arall yn bresennol, gan ddisgrifio’r theori fod Gareth Williams wedi medru dringo i’r bag ei hun yn “angrhedadwy.”

Daeth yr heddlu o hyd i gorff noeth, pydredig y dyn 31 oed wedi ei gloi tu mewn i’r bag mawr North Face yn y bath ei fflat yn Pimlico, Llundain, ar 23 Awst 2010.

Ceisiodd Peter Faulding, sy’n arebnigo mewn achub pobol o sefyllfaoedd cyfyng, i gloi ei hun tu mewn i fag yn union yr un fath, yn mesur 81cm x 48cm, dros 300 o weithiau – a methu bob tro.

“Galla’ i byth a dweud ei bod hi’n amhosib, ond dw i’n meddwl y byddai hyd yn oed Harry Houdini wedi ei chael hi’n anodd gyda hon,” meddai.

“Fy nghasgliad i yw bod Mr Williams unai wedi cael ei roi yn y bag tra’r oedd yn anymwybodol, neu ei fod yn farw cyn mynd i’r bag.”

Dywedodd y byddai wedi bod yn “rhwydd iawn” i blygu breichiau’r ysbïwr marw a’i roi yn y bag, ar yr amod bod hynny cyn i’r rigor mortis gymryd gafael ynddo.

Cafodd cynulleidfa’r cwest weld fideo o Peter Faulding yn ceisio gwasgu ei hun i mewn i’r bag tra’i fod mewn bath o’r un maint â’r un yn fflat Gareth Williams.

Dywedodd Peter Faulding wrth y llys y byddai’n “boeth eithriadol” tu fewn i’r bag ac fe fyddai Gareth Williams ond wedi gallu goroesi am 30 munud ar y mwyaf unwaith iddo fynd i mewn.

 Ond roedd ail arbenigwr yn gwrthod diystyru’r posibilrwydd fod Gareth Williams wedi cloi ei hun yn y bag heb help.

 Ceisiodd William MacKay, sy’n arbenigo mewn yoga, i ail-greu’r gamp mwy na 100 gwaith, a phob un yn aflwyddiannus. Ond dywedodd ei bod hi’n bosib y gallai Gareth Williams, oedd wrth ei fodd gydag ymarfer corff ac yn athrylith mathemategol, fod wedi cloi ei hun yn y bag heb fod rhywun arall yn bresennol.