Leanne Wood yn cyrraedd ei chynhadledd gynta' yn Arweinydd
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi brolio egwyddorion ei arweinydd heddiw, wedi iddi ddod i’r amlwg fod Leanne Wood wedi penderfynu gwrthod £20k o gyflog ychwanegol.

Mae Aelod Cynulliad arferol yn cael £53,852 o gyflog y flwyddyn, ond mae arweinwyr pleidiau yn cael mwy.

Mae’r Prif Weindiog Carwyn Jones yn derbyn £133,000 y flwyddyn.

“Dw i’n synnu dim bod Leanne wedi gwneud y penderfyniad hwn ar sail egwyddor,” meddai Lindsay Wittle, Aelod Cynulliad Dwyrain De Cymru.

“Mae Leanne yn wleidydd egwyddorol sy’n credu na fyddai’n deg, yn y cyfnod hwn o gyni, iddi dderbyn cynnydd o fwy na £ 20,000 y flwyddyn pan fo teuluoedd ac unigolion yn brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd.

“Mae Leanne wedi siarad yn gyson yn erbyn codiadau cyflog, bonysau a chyflogau mawrion. Fel cadeirydd  Grŵp Trawsbleidiol Undeb y PCS mae hi wedi cefnogi gweithwyr sy’n ymgyrchu yn erbyn colli swyddi ac israddio eu telerau ac amodau gwaith.

“Mae Leanne yn wleidydd sydd nid yn unig yn dweud, ond hefyd yn gwneud,” ychwanegodd.

Mae cyflog ychwanegol yn cael ei rannu rhwng arweinyddion y pleidiau ym Mae Caerdydd yn ddibynnol ar nifer yr Aelodau Cynulliad sydd gan eu plaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Leanne Wood wrth golwg360 heddiw fod hwn yn “benderfyniad personol gan Leanne yn unol â’i blaenoriaethau ymgyrchu”.

Mae golwg360 wedi gofyn i’r pleidiau eraill ddatgelu sefyllfa cyflog eu harweinwyr nhw hefyd.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Lib Dems fod eu harweinydd, Kirsty Williams, yn derbyn cyflog ychwanegol am arwain ei phlaid.