Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Penweddig yn Aberystwyth yn dathlu ar ôl ennill y wobr gyntaf drwy’r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth datblygu busnes Menter Ifanc.
Enillon nhw ddwy wobr, am y ‘Defnydd gorau o Dechnoleg ac Arloesi’ ac am ‘Gwmni Gorau’r Flwyddyn’.
Aeth criw o ddisgyblion o flynyddoedd 10 a 12, sef Tîm ‘Llanw’, ati i gynhyrchu llyfr ryseitiau, Sbarion – Datrysiad i Wastraff.
Mae’r llyfr wedi’i gyhoeddi’n ddwyieithog, ond mae ynddo hefyd ddatblygiadau arloesol.
Mae’r Rhaglen Cwmni yn cynnig y cyfle dros o leiaf ddeuddeg wythnos i ddisgyblion sefydlu a chynnal cwmni myfyrwyr dan arweiniad Cynghorwyr Busnes neu athro.
Y disgyblion sy’n gwneud yr holl benderfyniadau, o enwi eu cwmni, rheoli’r cyllid, a gwerthu i’r cyhoedd.
Mae’r cyfranogwyr yn cael profiad busnes ymarferol a sgiliau allweddol ar gyfer bywyd gwaith.
Mae’r cwmni wedyn yn cael y cyfle i gystadlu, gan baratoi adroddiad busnes cynhwysfawr, a wynebu cyfweliad a phanel o feirniaid a gorfod gwneud cyflwyniad.
Cystadlu yn Ewrop
Yn dilyn y llwyddiant hwn, fe fydd y disgyblion yn mynd yn eu blaenau i gystadlu yn y rownd Ewropeaidd yn Sisili fis Gorffennaf.
Daeth y tîm o Ysgol Gyfun Gymraeg Penweddig yn fuddugol drwy’r Deyrnas Unedig, a nhw fydd y cwmni cyntaf o Gymru i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn y rowndiau Ewropeaidd yn Sisili fis Gorffennaf.
Fe fu Jane Richards, Pennaeth Cyfadran Bagloriaeth a Mentergarwch yr ysgol, yn siarad â golwg360 am lwyddiant y criw, a dywed fod “y plant yn falch ein bod yn ysgol Gymraeg ac ein bod yn mynd ag ychydig o Gymraeg allan yna hefyd”.
Bu’r criw o Flynyddoedd 10 a 12, sef Tîm ‘Llanw’, wrthi fis Medi y llynedd yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth.
O’r cychwyn gyntaf, roedden nhw’n gwybod eu bod nhw eisiau i’w cynnyrch terfynol ymwneud â lleihau gwastraff, ond doedden nhw ddim yn siŵr pa fath o wastraff, felly aethon nhw ati i ymchwilio i ddillad a phlastig, ond penderfynu ar wastraff bwyd yn y pen draw.
Er mwyn codi arian i weithredu eu syniad, aethon nhw i Ganolfan Siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd, i’r siop The Welsh Secret i werthu cynhyrchion Nadolig wedi’u gwneud â llaw a’u personoli â geiriau Cymraeg.
Llyfr ryseitiau Cymraeg
Ar ôl y Nadolig, roedd gan y cwmni ddigon o arian i barhau â’u prif syniad, sef llyfr ryseitiau sy’n cynnig syniadau ar gyfer defnyddio sbarion.
Mae’r llyfr ryseitiau hefyd yn sbardun i geisio mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, gwastraffu bwyd a lleihau’r effaith niweidiol ar yr amgylchedd.
Drwy gasglu ryseitiau gan eu teuluoedd, coginio’r bwydydd a thynnu lluniau, llwyddon nhw i greu’r llyfryn a’i argraffu.
Mae’r llyfr yn ddwyieithog, a thrwy glicio ar godau QR mae modd cael mynediad at flogiau ac sy’n cael ei diweddaru o dro i dro gyda fideos lle mae modd cyd-goginio gyda’r disgyblion.
Balch o gynrychioli’r ysgol a Chymru
Roedd dwy gystadleuaeth ragbrofol cyn cyrraedd rownd y Deyrnas Unedig, y naill yn Llanbed a’r llall ym Mhrifysgol De Cymru yn Nhrefforest ger Pontypridd.
Yn y drydedd gystadleuaeth drwy’r Deyrnas Unedig, llwyddodd y cwmni unwaith yn rhagor i gipio’r wobr gyntaf.
“Dw i’n teimlo’n falch iawn ar ran y disgyblion a gweld sut maen nhw wedi datblygu dros y cyfnod, yn datblygu amrywiaeth o sgiliau a chael amrywiaeth o brofiadau fydd yn eu helpu i symud ymlaen yn y byd gwaith neu mewn prifysgolion i’r dyfodol,” meddai Jane Richards, Pennaeth Bagloriaeth a Mentergarwch Ysgol Gyfun Penweddig wrth golwg360.
“Ond hefyd, rydym yn falch iawn o gynrychioli’r ysgol a chynrychioli Cymru yn y rowndiau nesaf.”
Bydd y rownd Ewropeaidd yn cael ei chynnal yn Sisili rhwng Gorffennaf 2 a 5.