Mae’r sillafiad cywir ar gyfer enwau nifer o bentrefi ym Mhowys wedi bod yn destun trafodaeth rhwng y Cyngor Sir a Swyddfa Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg.

Ddydd Mawrth (Mehefin 25), mae disgwyl i’r Cynghorydd Llafur Sandra Davies, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, wneud penderfyniad drwy ddirprwyaeth i roi sêl bendith i adroddiad blynyddol drafft ar Safonau’r Gymraeg ar gyfer 2023-24.

Mae angen gwneud y penderfyniad nawr er mwyn galluogi’r adroddiad i gael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn diwedd y mis, sy’n ofyniad cyfreithiol.

Fel arfer, byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet llawn, ond oherwydd cyfyngiadau llywodraeth leol sy’n golygu na all cyfarfodydd Cabinet gael eu cynnal ym Mhowys cyn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4, mae’r adroddiad yn destun penderfyniad drwy ddirprwyaeth eleni.

Cwynion

Mae’r adroddiad gan Siôn Rowley, y Swyddog Iaith Gymraeg, yn datgelu bod cwynion wedi’u derbyn gan y Cyngor ynghylch sillafiad enwau Cymraeg presennol nifer o bentrefi.

Fis Medi y llynedd, roedd cwyn ynghylch sillafiad Llansantffraid, oedd yn honni na ddylid rhoi ‘t’ yn yr enw.

“Fe wnaeth yr aelod etholedig ar gyfer y ward (y Cynghorydd Gwynfor Thomas) gynghori mai barn y gymuned oedd y dylid parhau i ddefnyddio’r sillafiad ‘Llansantffraid’, fel gafodd ei benderfynu gan Gabinet y Cyngor ar Fedi 30, 2014,” meddai’r adroddiad.

Roedd y sillafiad ‘Abercraf’ ger Ystradgynlais hefyd yn destun cwyn fis Rhagfyr diwethaf.

Roedd yr achwynwr o’r farn y dylid rhoi to bach uwchben yr ‘a’ yn Abercrâf.

“Fe wnaethon ni wirio’r rhestr o enwau lleoedd Cymraeg sydd wedi’i chysoni gan Gomisiynydd y Gymraeg, ac fe wnaethon ni geisio eglurhad gan eu hadran ymchwil,” meddai’r adroddiad.

“Fe wnaeth swyddogion â gwybodaeth arbenigol ynghylch enwau lleoedd Cymraeg ac orgraff gynghori na ddylid defnyddio to bach yn ‘craf’, ond y dylid defnyddio cysylltnod, a defnyddio’r sillafiad ‘Aber-craf’.”

Eglurodd yr adroddiad eu bod nhw wedi hysbysu’r achwynwr ynghlch argymhelliad y Comisiynydd, ac y byddai’r Cyngor yn codi arwyddion â’r sillafiad cywir pan fyddai angen eu hadnewyddu “am resymau’n ymwneud â rheoli traffig”.

Cwynion ynghylch dwyieithrwydd

Roedd cwynion eraill roedd y Cyngor wedi’u derbyn yn ymwneud â’r angen i bapurau’r Cabinet fod yn ddwyieithog.

Hefyd yn yr adroddiad, bydd gwaith ar y gweill eleni i wella’r Gymraeg o fewn y Cyngor yn “creu cysylltiadau â phrifysgolion Cymru i annog myfyrwyr sy’n siarad a dysgu Cymraeg” i weithio gyda nhw.

Bydd sesiynau ymwybyddiaeth iaith hefyd yn cael eu cynnal ar gyfer aelodau o staff uwch.

Fel pob corff llywodraethol a chyhoeddus arall yng Nghymru, mae gofyn i Gyngor Powys gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, gafodd eu cyflwyno’n rhan o Fesur y Gymraeg 2011.

Rhoddodd hyn statws cyfreithiol cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg, a’r bwriad yw ei gwneud hi’n haws i bobol ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.