Mae esgobion a chlerigwyr yn Eglwys Lloegr wedi datgan nad oes gan yr eglwys “unrhyw beth i’w ofni” gan briodas hoyw.

Dywedodd yr Anglicaniaid dylanwadol bod priodas hoyw yn “rywbeth y dylid llawenhau ynddo”.

Ychwanegwyd y dylid herio’r syniad bod mwyafrif aelodau Eglwys Lloegr yn gwrthwynebu cyflwyno priodasau hoyw.

Mewn llythyr at bapur newydd y Times, dywedodd y grŵp sy’n cynnwys sawl aelod o’r Synod, eu bod nhw’n cefnogi cyflwyno priodasau hoyw.

“Mae sylwadau gan arweinwyr crefyddol o’r presennol a’r gorffennol wedi rhoi’r argraff bod yr Eglwys yn unfrydol yn erbyn caniatáu i gyplau hoyw briodi,” medden nhw.

“Dydyn ni ddim yn credu bod hynny’n adlewyrchu’r gwahaniaeth barn sy’n bodoli o fewn Eglwys Lloegr.”

Ychwanegwyd bod priodas wedi newid yn gyfan gwbl dros y canrifoedd, ac roedd yn wahanol iawn erbyn hyn i amlwreiciaeth yr Hen Destament ac obsesiwn y Canol Oesoedd ag eiddo a statws cymdeithasol.