George Osborne
Mae George Osborne wedi ei feirniadu gan rai o ASau ei blaid ei hun ar ôl iddo gyhoeddi y bydd Prydain yn rhoi £10 biliwn arall i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol.

Mynnodd y Canghellor bod yr arian yn hanfodol er mwyn amddiffyn swyddi a sicrhau twf economaidd ym Mhrydain.

Ond yn ôl ei feirniaid mae’n gorfodi trethdalwyr y Deyrnas Unedig i dalu am achub parth yr ewro.

Roedd gweinidogion ariannol a llywodraethwyr banciau wedi dod i gytundeb i hybu adnoddau’r Gronfa Ariannol Ryngwladol i $430 mewn cyfarfod yn Washington.

Fe fydd Japan yn cyfrannu $60 biliwn, De Korea yn cyfrannu $15 biliwn, y Swistir yn cyfrannu $10 biliwn ac Awstralia $7 biliwn.

Mae’r Unol Daleithiau a Canada wedi gwrthod cyfrannu ceiniog yn rhagor.

“Mae’r Deyrnas Unedig yn ystyried ein bod ni’n rhan o’r ateb i ddatrys problemau’r economi fyd-eang, yn hytrach na’n rhan o’r broblem,” meddai George Osborne.

“Rydyn ni’n helpu i ddatrys y broblem ddyled fyd-eang yn hytrach nag yn ychwanegu ato.

“Mae swyddi a thwf economaidd ym Mhrydain yn gwbl ddibynnol ar economi fyd-eang sefydlog. Er mwyn gwneud hynny mae angen Cronfa Ariannol Ryngwladol gref.

“Am ein bod ni wedi gweithredu i achub ein heconomi ein hunain, rydyn ni’n gallu bod ymysg y gwledydd sy’n cefnogi’r gronfa, yn hytrach nag ymysg y gwledydd sy’n gorfod dibynnu arno am arian.”

Toriadau

Ond dywedodd yr AS Ceidwadol, Peter Bone, bod rhoi rhagor o arian i achub yr ewro yn “wallgof”.

“Nid swyddogaeth trethdalwyr Prydain yw ceisio achub cynllun oedd er budd pobol y cyfandir, ond sydd wedi methu’n llwyr,” meddai.

“Ni fydd pobol yn deall pam ein bod ni’n torri’n ôl mor llym ond yna’n rhoi £10 biliwn ar blât i wledydd eraill. Mae’n wallgof.”