Abu Qatada
Mae’r clerigwr radical Mwslimaidd Abu Qatada wedi lansio apêl gyda Llys Iawnderau Ewrop sy’n golygu bod ymdrechion y Llywodraeth i’w anfon nôl i Wlad yr Iorddonen wedi cael eu hatal am y tro.
Mae cyfreithwyr Qatada, sy’n cael ei amau o derfysgaeth, yn honni bod barnwyr y llys wedi bod yn anghywir dri mis yn ôl pan wnaethon nhw ddyfarnu nad oedd mewn perygl o gael ei arteithio petai’n dychwelyd i Wlad yr Iorddonen.
Fe fydd y llys yn Ewrop yn penderfynu a fydden nhw’n ystyried ei apel, ond ni fydd y Llywodraeth yn gallu ei estraddodi nes bod y llys yn dod i benderfyniad.
Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May ddoe ei bod yn bwrw mlaen gyda chynlluniau i’w estraddodi ar ôl dod i gytundeb gyda’r awdurdodau yng Ngwlad yr Iorddonen.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref nad oedd gan Qatada hawl i wneud apel i Uwch Siambr y llys and fod y cyfnod o dri mis i wneud hynny wedi dod i ben am hanner nos Ddydd Lun, oriau’n unig gyn iddo gael ei arestio. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.
Yn ôl llefarydd ar ran y llys fe fydd yr Uwch Siambr yn penderfynu’n “fuan” a fyddan nhw’n ystyried apel Qatada.