Alun Ffred Jones, Plaid Cymru
Mae ffigyrau diweithdra Cymru wedi cael ymateb cymysg ar draws y pleidiau heddiw, wedi iddi ddod i’r amlwg fod diweithdra yng Nghymru wedi codi 1,000, tra bod gwledydd Prydain wedi gweld gostyngiad o 35,000 yn nifer y di-waith.
Wrth ymateb i’r ffigyrau heddiw, sy’n dangos bod diweithdra wedi cynyddu 5.3% yng Nghymru ers yr adeg yma’r llynedd, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones AC, fod y ffigyrau yn dangos bod “dim digon yn cael ei wneud” i newid tranc yr economi yng Nghymru.
“Yn y flwyddyn ddiwethaf mae Cymru wedi dioddef colled enfawr o swyddi – dros 5% – ond dydi Llywodraeth Lafur Cymru na Llywodraeth Ceidwadwyr/Dem Rhyddion y Deyrnas Gyfunol ddim yn gwneud yr hyn sydd ei angen i helpu,” meddai.
‘Polisïau yn gweithio’
Ond mynnu bod polisïau San Steffan yn gweithio y mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, a gofyn i Gymru ystyried y cyd-destun Ewropeaidd cyn beirniadu.
“Os ydych chi’n edrych o gwmpas Ewrop, rydyn ni’n ymdopi yn syndod o dda o ystyried ein bod ni’n dal i glirio fyny ar ôl llanast economaidd Llafur,” meddai llefarydd menter a busnes y Dems Rhydd, Eluned Parrott.
“Mae Clymblaid San Steffan yn cymryd y camau iawn trwy dorri trethi i deuluoedd sy’n gweithio, a chreu’r amodau iawn ar gyfer adfer yr economi.”
‘Arwyddion calonogol’
Canolbwyntio ar ffigyrau’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, sy’n awgrymu bod nifer y rhai mewn swyddi wedi codi 15,000 yng Nghymru yn ystod y chwarter olaf.
Er bod nifer y di-waith wedi codi fymryn, meddai, mae cyfradd y di-waith wedi aros yr un fath.
“Tra bod y gyfradd diweithdra yn parhau’n annerbyniol o uchel ar 8.9%, rydyn ni’n gweld rhai arwyddion calonogol fod pethau’n gwella,” meddai Cheryl Gillan.
“Yn amlwg mae yna llawer iawn yn dal i’w wneud, ond mae cyfres o fesurau yn eu lle nawr i daclo’r materion sy’n ein hwynebu ni, yn ogystal â helpu creu cyfleoedd am dwf ar draws y genedl.”
‘Hyrwyddo twf’
Roedd Gweinidog Busnes a Menter Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, hefyd yn croesawu ffigyrau’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol.
“Tra bod nifer y bobl sy’n cael eu cyflogi yng Nghymru i fyny 9,000 dros y flwyddyn ddiwethaf, ac i fyny 15,000 dros y chwarter diwethaf, r’yn ni’n parhau’n ymroddedig i greu’r amodau angenrheidiol i greu mwy o swyddi, hyrwyddo twf yn yr economi, a chodi hyder yn economi Cymru,” meddai.