Mae na bryder ymhlith pobol leol y bydd datblygu marina yn Wdig ger Abergwaun yn newid cymeriad yr ardal.
Ddoe, roedd Cyngor Sir Benfro wedi cymeradwyo cynlluniau bras i adeiladu marina yn Wdig, er bod rhai pobol leol wedi lleisio gwrthwynebiad.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys datblygu marina ar gyfer 450 o gychod a chodi 253 o fflatiau a thŷ tafarn. Mae cynllun hefyd i adennill tir o’r môr a fydd yn gallu cael ei ddefnyddio er mwyn ymestyn y porthladd presennol neu ar gyfer codi tai.
Cwmni datblygu Conygar, sydd â phencadlys yn Llundain, sydd y tu ôl i’r prosiect.
Dywedodd Cynghorydd Sir Wdig, Moira Lewis, ei bod hi o blaid y datblygiad ond yn awyddus i weld cynlluniau mwy manwl.
“Mae pryder am y platfform tir yma fydd yn cael ei greu achos dy’n ni ddim yn gwybod eto at ba bwrpas bydd e’n cael ei ddefnyddio.
“Mae angen arian ar yr ardal yma a gobeithio bydd y datblygiad yn defnyddio cwmnïau lleol ac yn creu swyddi i bobol leol. Hoffwn i weld cwmni Conygar yn dod yma i Wdig i gwrdd â’r gymuned leol er mwyn esbonio’r cynlluniau.
“Mae rhai pobol yn becso bydd yr holl fflatiau yma’n sbwylio Wdig ac yn newid cymeriad yr ardal. Dwi’n gobeithio bydd y cyfan yn cael ei wneud yn y ffordd iawn,” meddai Moira Lewis.
Dywedodd Prif Weithredwr Conygar, Robert Ware, eu bod nhw wrth eu boddau gyda phenderfyniad Cyngor Sir Benfro.
“Mae hyn yn rhoi hyder i ni wthio mlaen i baratoi cynigion manwl. Byddwn ni hefyd yn ymgynghori gyda phartïon perthnasol er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n achosi pryder.”
Bydd Conygar yn cyflwyno cynlluniau manylach a bydd y rheiny yn cael eu hystyried gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Benfro cyn bod y datblygiad yn cael dechrau.