Gallai ysgolion wynebu rhagor o streiciau yn yr haf wrth i’r anghydfod barhau rhwng athrawon a’r llywodraeth yngylch newidiadau i bensiynau a thâl.

Mae disgwyl i gynhadledd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT) yn Torquay yfory drafod cynnig brys ar bensiynau’r sector cyhoeddus.

Mae’r cynnig yn galw am yr undeb i adeiladau “clymblaid o undebau” i gynnal streiciau ar y cyd yr haf yma a’r tu hwnt er mwyn “gorchfygu cynigion y Llywodraeth”.

Er mai tymor yr haf yw cyfnod y prif arholiadau i ysgolion ledled Prydain, mae’r NUT yn mynnu nad ei fwriad yw tarfu ar arholiadau.

“Mae’n hanghydfod ni gyda’r Llywodraeth ar sail pensiynau’r sector cyhoeddus,” ysgrifennydd cyffredinol yr NUT, Christine Blower.

“Fe fyddwn ni, wrth gwrs, wrth drafod gydag undebau eraill, yn trafod pa fath o amseru sy’n gwneud synnwyr ac ym mha ranbarthau, ond fydden ni ddim yn mynd ati’n fwriadol i danseilio tymor yr arholiadau.”

Fe fu’r NUT yn cymryd rhan mewn streic dros bensiynau ar Fehefin 30 y llynedd, a oedd ar ôl tymor yr arholiadau, yn ogystal â ymuno â diwrnod o weithredu’r TUC ar Dachwedd 30.

Dadl yr undeb yw y bydd newidiadau’r Llywodraeth yn gadael athrawon yn talu mwy, gweithio’n hirach a derbyn llai pan fyddan nhw’n ymddeol.

Mae gweinidogion y Llywodraeth ar y llaw arall yn mynnu bod angen newidiadau i bensiynau’r sector cyhoeddus er mwyn sicrhau y byddan nhw’n gynaliadwy i’r dyfodol.