Gydag wyth o blismyn wedi eu gwahardd o’u gwaith ar honiadau’n ymwneud â hiliaeth, mae heddwas blaenllaw wedi cyhuddo Scotland Yard o anwybyddu rhybuddion o’r broblem am dros ddeng mlynedd.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Leroy Logan o Gymdeithas y Plismyn Du, ei fod yn ‘siomedig’ gan yr hyn sy’n ymddangos fel methiant Heddlu Llundain i gymryd camau effeithiol ar ôl blynyddoedd o adborth gan gymunedau du.
Roedd yn siarad ar ôl i 10 cŵyn – yn ymwneud â 20 o blismyn ac un aelod o staff yr heddlu – gael eu cyfeirio at Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.
Mae’r rhain yn ymwneud â rhestr o honiadau sy’n cynnwys bwlio swyddogion cynorthwyol yr heddlu, ymosod ar amryw o bobl ifanc yn Hyde Park y llynedd a defnyddio iaith hiliol.
Mae wyth plismon ac un aelod o staff yn Scotland Yard eisoes wedi cael eu gwahardd o’u swyddi.
Mae Pc Alex MacFarlane wedi cael ei wahardd ar ôl i recordiad gael ei wneud o ddyn a arestiwyd yn cael ei alw’n “nigger”.
Roedd Mauro Demetrio, 21 oed o Beckton yn nwyrain Llundain wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau ond ni chymerwyd camau pellach yn ei erbyn. Roedd wedi recordio’r driniaeth sarhaus ar ei ffôn symudol.
Fe ddaeth i’r amlwg fod plismon arall wedi cael ei wahardd ar ôl honiadau iddo gael ei weld yn cicio bachgen du 15 oed i’r ddaear ac yn daro â’i bengliniau.
‘Dirywiad mewn agweddau’
Dywedodd yr Uwcharolygydd Logan bod dirywiad mewn agweddau dros y blynyddoedd diwethaf a bod angen cael gwared ar y rhai sy’n euog.
“Bob blwyddyn ers 2001, mae pobl ifanc wedi bod yn dweud eu bod yn cael eu trin heb ddim parch nac urddas a sylwadau hiliol ffwrdd-â-hi yn cael eu defnyddio,” meddai.
“Roedden ni’n dweud wrth Heddlu’r Met, tua dau neu dri gomisiynydd yn ôl, mai dyna oedd yn digwydd. Ond fel gyda chymaint o bethau eraill, mae’n cael ei anwybyddu hyd nes y mae’r wasg neu’r cyfryngau’n cael gafael arno ac yn gorfodi pobl i weithredu.
“Fe fyddech chi’n disgwyl bod y sylwadau hiliol ffwrdd-â-hi hyn wedi hen fynd ond maen nhw’n dal i ddigwydd. Weithiau mae hi’n un cam ymlaen a dau gam yn ôl – mae’n rhaid i’r gwasanaeth heddlu gael ei dŷ mewn trefn.”