Mae proffwydi tywydd wedi rhybuddio y gallai corwyntoedd o hyd at 40 milltir yr awr daro Môn, de Cymru a de-orllewin Lloegr ddydd Llun.

Mae disgwyl i’r cawodydd ysgafn a’r tywydd cymylog barhau dros y penwythnos, gyda glaw trymach ledled Prydain yn raddol.

Daw’r rhagolygon o dywydd gwlyb ar ôl y tywydd poethaf erioed yn yr Alban y mis diweithaf, a’r eira a gafwyd yng Nghymru, gogledd Lloegr a’r Alban yn gynharach yr wythnos yma.

Dywedodd Nick Prebble, o MeteoGroup, y dylai’r tymheredd ddychwelyd i’r hyn sy’n arferol ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn dros y penwythnos, gydag uchafswm o 13C (55F).

“Bydd Dydd Llun y Pasg yn wlyb, gwyntog ac ansefydlog gyda chawodydd traddodiadol Ebrill,” meddai.

“Rydyn nid rhagweld y bydd y glaw drymaf yn rhannau gorllewinol Prydain, ond dylai deithio ar draws y wlad.

“Gallai fod o fendith i rannau o’r wlad sy’n wynebu  sychder, ond fe fydd angen llawer mwy o law.

“Bydd corwyntoedd cryf yn codi ddydd Llun y Pasg yn ne-orllewin Lloegr a de Cymru, ond bydd gwyntoedd oer yn cael eu teimlo ledled y wlad.

“Gallai gwyntoedd o 40 milltir yr awr daro Dyfnaint, Cernyw, de Cymru a Môn, o ganlyniad i bwysedd isel yn dod i mewn o’r gorllewin.”