pe
Os oedd Prif Weinidog Prydain wedi achosi panig wrth y pympiau petrol, fe fydd yn gallu brolio’i fod wedi gwneud gwahaniaeth i ffigurau masnach mis Mawrth.

Fe gododd gwario gan gwsmeriaid trwy wledydd Prydain o 0.4% o’i gymharu â’r mis cynt, ond roedd tri chwarter y cynnydd oherwydd y rhuthr i brynu tanwydd.

Fe gafodd ffigurau eu cyhoeddi heddiw’n dangos fod gwario ar betrol gyda chardiau Visa wedi codi bron 23% o’i gymharu â mis Chwefror a mwy na 27% o’i gymharu â mis Mawrth y llynedd.

Er bod cynnydd hefyd mewn gwario ar fwytai a gwestai a dillad, roedd sawl sector arall wedi cwympo ac mae arbenigwyr yn parhau i rybuddio am gyflwr yr economi.

“Roedd gwario’n gyffredinol yn parhau’n is nag yr oedd flwyddyn yn ôl,” meddai Chris Williamson, prif economegydd y corff Markit, sy’n llunio’r adroddiadau.

“Heb gyfri’r gwario mwy nag arfer ar danwydd, byddai’r dirywiad wedi cyflymu.”