Francis Maude
Mae aelodau seneddol Llafur yn Llywodraeth San Steffan wedi galw ar y Gweinidog sy’n gofalu am Swyddfa’r Cabinet, Francis Maude, i ymddiswyddo.
Mae wedi ei feirniadu’n hallt am gynghori gyrwyr i storio tanwydd mewn caniau.
Dywedodd John Mann, Aelod Seneddol Llafur Bassetlaw, y dylai Mr Maude gysidro canlyniadau ei gyngor ac ymddiswyddo.
Mi wnaeth dynes 46 oed, Diane Hall, o Efrog, dderbyn llosgiadau difrifol wrth iddi dywallt petrol o un can i’r llall yn ei chegin ac mae’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Pinderfields yn Wakefield.
Dywedodd Canghellor yr Wrthblaid, Ed Balls, fod y ffordd oedd y Llywodraeth wedi ymdrin â’r ffrae rhwng y gyrwyr tanceri a’u cyflogwyr wedi bod yn fethiant llwyr.
“Fe ddylai’r prif weinidog fod wedi dweud wrth y ddwy ochr i siarad,” meddai. “Mae dweud llenwch eich tanc, gan achosi panig, a thynnu allan y caniau, wedi arwain at ciwiau, at brinder, at y rhedeg allan o betrol.”