Mae Llywodraeth San Steffan wedi cymryd tro pedol ac wedi newid ei chyngor i yrwyr yn dilyn dau ddiwrnod o brynu gwyllt mewn gorsafoedd petrol ar draws Prydain.
Mae gweinidogion yn dweud yn awr nad oes angen llenwi’r car i’r ymylon â thanwydd yn aml ar ôl i undeb Unsain gyhoeddi na fydd streic gan yrwyr tanceri yn digwydd dros ŵyl y Pasg.
Roedd y Prif Weinidog David Cameron wedi dweud yn gynharach yn yr wythnos y byddai’n beth doeth i yrwyr lenwi’r car yn aml oherwydd y bygythiad o streic.
Mae’r Llywodraeth yn dweud yn awr nad oes angen i yrwyr giwio mewn gorsafoedd petrol.
Roedd cynnydd o 174% yn y galw am betrol dydd Iau, a chynnydd o 77% am ddisel.
Mae Unsain a’r saith cwmni dosbarthu tanwydd sy’n rhan o’r anghydfod mewn cysylltiad â’r gwasanaeth cymodi Acas ond fydd trafodaethau ddim yn cael eu cynnal hyd yr wythnos nesaf.
Cadarnhaodd Ysgrifennydd Cyffredinol cynorthwyol Unsain, Diana Holland, na fydd streic yn cael ei chynnal dros y Pasg ond dywedodd y byddai’r undeb yn cadw’r hawl i gynnal streic ar ôl y Pasg petai’r trafodaethau ddim yn dwyn ffrwyth.