Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes a phlentyn ger Tremadog, Gwynedd, neithiwr.
Fe alwyd yr heddlu i dŷ yn Nheras Glanmorfa am 9.20 neithiwr, a darganfuwyd y ddynes a phlentyn wedi marw.
Arestiwyd dyn yn ei bedwardegau yn y tŷ.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bore ʼma nad ydi swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.
Mae teulu agos wedi cael gwybod am y digwyddiad ac maen nhw’n cael cefnogaeth swyddogion arbenigol.
Mae’r heddlu yn parhau i fod yn y tŷ.
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd ger Teras Glanmorfa neithiwr, neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, i gysylltu â nhw ar y rhif 101.
Mae’r gwasanaeth newyddion PA wedi enwi’r ddau a fu farw. Dywedodd ffrindiau a chymdogion wrth yr asiantaeth mai’r ddau oedd Suzanne Jones, mam i dri o blant, a’i mab William oedd yn dair oed. Credir fod ganddi hefyd ddwy o ferched, Antonia ac Amy.
Nid yw’r wybodaeth yma wedi ei chadarnhau gan Heddlu Gogledd Cymru.