Mae proffwydi’r tywydd wedi rhybuddio y bydd y tymheredd yn plymio dros y dyddiau nesaf, ac y gallai rhai rhannau o Brydain weld Eira yn ystod gwyliau’r Pasg.
Fe fydd ffrynt oer yn lledu ar draws Prydain ddydd Llun, gan arwain at eirlaw neu eira, medden nhw.
Daw’r newid mawr wedi i Gymru fwynhau tymheredd dros 20C yr wythnos hon.
“Ar hyn o bryd rydyn ni’n disgwyl gweld ffrynt oer yn lledu i gyfeiriad y de dros y penwythnos,” meddai Clare Allen o gwmni tywydd MeteoGroup.
“Fe fydd yn dod â glaw, ond fe allai hefyd dod a chenllysg ag eira.”
Pwysleisiodd fod rywfaint o ansicrwydd, ond nad oedd eira ar ddechrau mis Ebrill yn anghyffredin.
Parhaodd y tywydd poeth ddoe, gan gyrraedd uchafbwynt o 23C yn Southampton. Dyna’r tymheredd poethaf ym Mhrydain ar 28 Mawrth ers 1965.
Mae disgwyl rhagor o heulwen heddiw, cyn i’r tymheredd syrthio yfory.
“Fe fydd dydd Sadwrn yn oerach o lawer. Mae disgwyl tymheredd o 13C ar ei uchaf, sydd yn eithaf da’r adeg yma o’r flwyddyn.
“Fe fydd yn gymylog ymhobman, gydag ysbeidiau heulog a rhywfaint o law.”