Elin Jones
Mae Plaid Cymru wedi galw am eglurhad gan y Blaid Lafur am eu safbwynt ar bwerau dŵr ar ôl awgrym eu bod nhw wedi newid eu safbwynt.
Dywedodd Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau iddi eu bod nhw o blaid datganoli grym dros ddŵr.
Roedd sylwadau’r Gweinidog Amgylchedd fel petaent yn arwydd o newid yn safbwynt Llafur ynglŷn ag a ddylai Cymru gael rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr, meddai.
“Pan holais Weinidog Llafur yr Amgylchedd, roedd ef fel petai yn dweud ei fod eisiau gweld datganoli pwerau llawn dros adnoddau dŵr i Gymru,” meddai.
“Mae’n bwysig fod Llafur yn egluro eu safbwynt ar y pwnc pwysig hwn fel mater o frys. Byddai dwyn adnoddau naturiol Cymru dan reolaeth Gymreig yn caniatáu i ni elwa yn yr un modd ag y mae cenhedloedd eraill yn elwa o’u hadnoddau.
“Mae Plaid Cymru wastad wedi ymgyrchu am i bwerau llawn dros adnoddau dŵr Cymru gael eu cadw yma yng Nghymru.
“Yn nhystiolaeth Plaid Cymru i Gomisiwn Silk, rydym wedi galw am drosglwyddo cyfrifoldebau dros ein hadnoddau naturiol gan gynnwys dŵr.
“Yr ydym ni’n credu y dylid harneisio potensial adnoddau naturiol Cymru er lles pobl Cymru, a llywodraeth Cymru yw’r lle gorau i ofalu bod hyn yn digwydd.
“Fodd bynnag, mae Llafur yn wastad wedi gwrthwynebu’r galwadau hyn, ac yn ôl yn 2006, roedden nhw’n mynnu cynnwys cymal yn Neddf Llywodraeth Cymru yn cadw’r rheolaeth derfynol dros adnoddau dŵr yn San Steffan.”