Dywed Miriam O’Reilly ei bod hi wedi wynebu “dicter” pan ddychwelodd i’w gwaith yn y BBC ar ôl ennill tribiwnlys yn erbyn y gorfforaeth yn eu cyhuddo o wahaniaethu ar sail oedran.
Roedd cyn gyflwynydd Countryfile wedi dwyn achos yn erbyn y BBC ar ôl iddi gael ei gwrthod am rôl gyda’r rhaglen boblogaidd sy’n trafod materion cefn gwlad, pan gafodd ei hailwampio.
Yn dilyn y tribiwnlys fe gafodd Miriam O’Reilly gytundeb tair blynedd gyda’r BBC ond fe benderfynodd adael ar ôl blwyddyn i weithio i elusen roedd hi wedi ei sefydlu i helpu merched sy’n wynebu gwahaniaethu yn y gweithle.
Dywedodd Miriam O’Reilly wrth y Guardian bod 99.9% o’i chydweithwyr wedi ei thrin gyda pharch a chefnogaeth ond roedd “rhai unigolion” wedi dangos dicter tuag ati am ei bod wedi ennill ei hachos.
Roedd yr achos wedi denu sylw yn y cyfryngau ar ôl i’r BBC gael ei beirniadu am gael gwared ag un o feirniaid Strictly Come Dancing, Arlene Phillips.