Dr Who ac Amy Pond
Mae miloedd o bob cwr o’r byd wedi teithio i Gaerdydd y penwythnos yma ar gyfer cynhadledd swyddogol gyntaf cefnogwyr y gyfres deledu Dr Who.

BBC Cymru sy’n gyfrifol am ffilmio Dr Who ers 2005 a BBC Worldwide sydd wedi trefnu’r gynhadledd.

Bydd cefnogwyr selog o Awstralia, Seland Newydd, Norwy, yr UDA, yr Iseldiroedd, Canada, Ffrainc a’r Iwerddon ymhlith y 1,500 fydd yn cael mynychu’r gynhadledd heddiw (Sadwrn) ac yfory.

Fe fyddan nhw’n cael cyfle i gyfarfod y Doctor ei hun sef yr actor Matt Smith a’i gyfaill Amy Pond, neu yr actores Karen Gillan fydd yn gadael y gyfres cyn bo hir.

Fe fyddan nhw hefyd yn cael ymweld a’r set a gwylio’r modd y bydd colur yn troi person yn greadur arall-fydol.

Bydd arddangosfa am y gyfres, gaewyd yn Llundain yn ddiweddar, yn ail-agor ym Mae Caerdydd yn ddiweddarach eleni a disgwylir y bydd hyd at 250,000 yn mynd yno yn flynyddol.