Bydd siop Recordiau’r Cob ym Mangor yn cau am y tro olaf y prynhawn yma ar ôl bod ar agor am 33 o flynyddoedd.
Yn ôl Owen Hughes, perchennog y siop, mae gwerthiant ar-lein a chryno ddisgiau yn golygu nad yw’r siop yn talu’i ffordd bellach.
Mae’r siop yn enwog fel cangen o’r siop recordiau ail- law sy’n dal ar agor ym Mhorthmadog ac mae wedi bod yn gyrchfan i gasglwyr recordiau a cherddorion yn arbennig o ogledd Cymru a gogledd -orllewin Lloegr.
“Yn sicr mae’n ddiwrnod trist i ni ac i nifer o gwsmeriaid teyrngar sydd gennym o hyd,”meddai Owen Hughes.
“Diolch o galon i bawb sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd, ac rydym am ffarwelio mewn steil gyda cymorth rhai o’n cyfeillion cerddorol.”
Bydd nifer o ddigwyddiadau byw yn y siop trwy gydol y dydd heddiw ac mae Radio Cymru yn darlledu’n fyw oddi yno.