Cyflwynwyr Heno
Mae Awdurdod S4C wedi cynnal trafodaeth estynedig ar yr ymateb i’w rhaglen newydd Heno, sydd wedi disodli Wedi 7.
Dywedodd awdurdod y sianel bod aelodau’r Awdurdod yn rhannu’r pryderon a fynegwyd gan nifer fawr o wylwyr ynglŷn â’r rhaglen.
Roedden nhw hefyd wedi trafod yr ymateb i amserlen newydd y sianel a lansiwyd ar 1 Mawrth, yn y cyfarfod misol ddydd Iau.
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, fod yna bellach bryderon ymysg gwylwyr ynglŷn â safon gwasanaeth S4C.
“Mae gan yr Awdurdod gydymdeimlad â chynhyrchwyr a swyddogion wrth iddynt wynebu’r her o geisio ymestyn apêl y gwasanaeth tra’n gweithio gyda chyllideb sydd wedi ei thorri’n sylweddol,” meddai.
“Ond mae gennym ddyletswydd sylfaenol i sicrhau bod barn ein gwylwyr – yn enwedig pan gaiff ei mynegi mor groyw a chyson ag yn y dyddiau diwethaf – yn cael ei chlywed ac yn cael dylanwad ar yr hyn a welir ar y sgrin.
“Rhaid gwarchod safon y gwasanaeth.
“Mae’r Prif Weithredwr wedi ymrwymo i roi’r gynulleidfa wrth galon y gwasanaeth ac rydym yn croesawu’r camau pendant y mae yn eu cymryd, mewn partneriaeth â chwmni Tinopolis, i sicrhau y bydd Heno yn rhaglen fydd yn cyfrannu’n llwyddiannus at amcanion S4C ac at fwynhad gwylwyr.”
Dywedodd yr Awdurdod eu bod nhw’n disgwyl y gwelir newidiadau cadarnhaol i’r rhaglen yn y tymor byr ac fe gyflwynir adroddiad pellach ynglŷn ag elfennau eraill yr amserlen newydd yng nghyfarfod mis Ebrill.
Daw sylwadau’r awdurdod wedi i gadeirydd y cwmni sy’n cynhyrchu Heno ddweud wrth gylchgrawn Golwg fod rhaglen Heno mewn perygl o ladd y Sianel.
Yn y cyfweliad dywedodd Ron Jones o Tinopolis nad oes dyfodol i’r Sianel os bydd hi’n parhau gyda Heno a’i thebyg, ond ei fod yn ffyddiog y bydd yna dro pedol ac y daw rhaglen sydd at ddant y Cymry Cymraeg.
Mae’n rhoi’r bai am Heno ar gynnwys y ddogfen Gweledigaeth S4C 2012-2015 gafodd ei chyhoeddi y llynedd mewn ymateb i’r cwtogi garw ar gyllideb y Sianel.