Yr Wyddfa
Bydd Neges Ewyllys Da yr Urdd yn cael ei gyhoeddi o gopa’r Wyddfa eleni, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Bydd 30 o blant blwyddyn 12 o bob cwr o Eryri yn cyhoeddi’r neges o gopa uchaf Cymru ym mis Mai eleni – ar Ddydd Ewyllys Da Rhyngwladol.
Mae’n 89 mlynedd ers i’r Neges Ewyllys Da gyntaf gael ei darlledu, ac ers hynny mae wedi teithio ar hyd Cymru a thu hwnt – o’r Senedd ym Mae Caerdydd i’r Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel.
Ond hwn fydd y tro cyntaf i’r neges 150 gair gael ei gyhoeddi o ben yr Wyddfa.
Adlewyrchu ‘delfrydau’r Gemau Olymapidd’
Daeth 20 o bobol ifanc o Eryri ynghyd fis Hydref diwethaf ar gyfer sesiwn deuddydd o hel syniadau yng Nghanolfan Glan-llyn ger y Bala, er mwyn rhoi Neges Ewyllys Da 2012 ynghyd.
Penderfynwyd eleni y byddai’r neges yn cael ei selio ar ddelfrydau’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Bydd y neges honno yn cael ei gyfieithu i 34 iaith, ac yn cael ei berfformio ar gopa’r Wyddfa ar 18 Mai, ac ar brif lwyfan Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012, yng Nghlynllifon, ger Caernarfon, ym mis Mehefin.
Darlledwyd y neges am y tro cyntaf ar y BBC World Service ym 1924, ac erbyn heddiw, trwy gyfrwng y 34 iaith, mae’r neges yn cyrraedd pedwar ban byd.
Yn y 1950au rhoddwyd y cyfrifoldeb i’r Urdd i gyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn flynyddol ar ddydd Ewyllys Da, 18 Mai, sef dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg ym 1899.