Oes aur Edward H Dafis
Mae aelodau’r siwpergrwp Cymraeg enwocaf yn dechrau gigio eto nos Sadwrn yma.
Mae’r band H, sy’n cynnwys amryw o aelodau Edward H Dafis, yn chwarae yng Nghaersws nos Sadwrn ac yn bwriadu chwarae cyfres o gigs dros yr haf.
Dywedodd un o aelodau H, Hefin Elis, fod e’n gyfle da i rannu llwyfan gyda bandiau ifanc.
“Ry’ ni gyd yn mwynhau perfformio a chyfeilio a mae’n gyfle i atgyfodi rhai o ganeuon Edward H a bandiau eraill fel Ac Eraill”,” meddai.
Bydd Cleif Harpwood, John Griffiths, Hefin Elis, Charli Britton a Wyn Pearson yn dod ynghyd ym mand H, a byddan nhw’n rhannu llwyfan yn Nhafarn y Buck nos Sadwrn gyda Hufen Ia Poeth a Catrin Jones. Bydd gigs yn dilyn ym Methesda, Amlwch a’r Duke of Clarence Caerdydd.
Daeth aelodau Edward H Dafis yn ôl at ei gilydd y llynedd yn nathliad pentref Derwen Gam yng Ngheredigion, ond dywed Hefin Elis fod y sîn Gymraeg wedi newid yn sylweddol ers oes aur y 70au.
“Mae’n amhosib cymharu’r ddau gyfnod. Mae’r byd wedi symud yn ei flaen a mae pobl yn newid,” meddai. “O’r hyn glywaf i mae’n anodd denu cynulleidfaoedd i gigs y dyddiau hyn”.