Fe fydd gan y Theatr Genedlaethol babell “enfawr” ar gyfer cynhyrchiad Y Storm ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Dyna un rhan o weledigaeth y Cyfarwyddwr Artistig Arwel Gruffydd a gafodd ei benodi ym mis Mai y llynedd.

Fe fydd cyfieithiad Gwyneth Lewis o The Tempest yn cael ei gyflwyno yn enw Gŵyl Shakespeare y Byd a Gŵyl Llundain 2012 – yr Olympiad Diwylliannol.

Er y bydd y cwmni yn defnyddio brand y ddau ddigwyddiad wrth farchnata, ni fydd y ddrama Gymreg yn cael ei pherfformio ar lannau’r Tafwys.

Fe fydd Y Storm i’w gweld yn ystod Eisteddfod Bro Morgannwg ar gae’r Sioe Sir yng Nghaerfyrddin ac ar Stad y Faenol ger Bangor.

“Mi fydd yn gynhyrchiad ysblennydd, uchelgeisiol,” meddai Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Arwel Gruffydd.

“Bydd yn sioe sy’n haeddu ei lle o fewn gŵyl yr Olympics, ac yn sioe a fydd yn cael dipyn o sylw nid yn unig yng Nghymru ond hefyd ar lefel Brydeinig oherwydd y cysylltiad gyda’r RSC a’r Olympiad Diwylliannol.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 22 Mawrth