Rhodri Williams ac Emma Walford
Mae’r rhaglen Heno mewn perygl o ladd y Sianel – dyna farn Cadeirydd y cwmni sy’n cynhyrchu’r rhaglen.
Yn ôl Ron Jones o gwmni Tinopolis, S4C sy’n gyfrifol am gynnwys tabloid a Phrydeinig y rhaglen gylchgrawn ddaeth yn lle Wedi 7.
Tra’n dweud yn gwbwl blaen nad oes dyfodol i’r Sianel os bydd hi’n parhau gyda Heno a’i thebyg, mae’n ffyddiog y bydd yna dro pedol ac y daw rhaglen sydd at ddant y Cymry Cymraeg.
Roedd Ron Jones yn awyddus i amddiffyn Angharad Mair a chriw cynhyrchu Heno, gan bwysleisio mai S4C wnaeth ddewis enw’r rhaglen a’i chynnwys.
Mae Cadeirydd Tinopolis yn rhoi’r bai am Heno ar gynnwys y ddogfen Gweledigaeth S4C 2012-2015 gafodd ei chyhoeddi y llynedd mewn ymateb i’r cwtogi garw ar gyllideb y Sianel.
“Mae Gweledigaeth 2012, petae’n cael ei gario trwyddo am y dair blynedd nesaf, mi fydde fe’n lladd S4C fel gwasanaeth,” meddai Ron Jones.
“Mae’r cyfeiriad yma yn anghywir i’r Sianel. Nid y rhaglenni rydw i moyn gweld ar y sgrîn ydyn nhw.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 22 Mawrth