Mae cannoedd o brotestwyr wedi teithio i’r Senedd yn Llundain heddiw i alw ar y Canghellor i leihau treth ar danwydd, wrth i’r pris cyfartalog am litr o betrol gyrraedd 138 ceiniog.

Roedd pensiynwyr, gyrrwyr tacsi, a gyrrwyr loriau ymhlith y protestwyr fu’n lobio’r Senedd cyn y Gyllideb y mis hwn.

Yn ystod y brotest, oedd wedi cael ei threfnu gan FairFuel UK, cafodd adroddiad ei gyflwyno i 10 Downing Street.

Mae’r adroddiad gan y Ganolfan Ymchwil Busnes ac Economaidd (CEBR) yn honni y bydd torri treth tanwydd o 2.5c y litr yn creu 180,000 o swyddi newydd.

Yn ddiweddar cyfarfu aelodau o FairFuel UK â Gweinidog y Trysorlys, Chloe Smith, er mwyn rhannu canfyddiadau’r adroddiad.

Dywedodd sylfaenydd FairFuelUK Peter Carroll: “Er gwaetha’r tywydd gwlyb rydan ni wedi cael ein calonogi bod cannoedd wedi ymuno â’r brotest.

“Rydyn ni’n obeithiol y bydd y Canghellor George Osborne yn defnyddio’i synnwyr ac yn torri’r dreth ar danwydd yn ei Gyllideb.”

Roedd adroddiad arall wythnos ddiwethaf yn dangos bod gyrrwyr yn y DU yn talu’r dreth uchaf ar danwydd nag unrhyw wlad arall yn Ewrop.

‘Nid ateb tymor hir’

Ond mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn credu nad yw gostwng y dreth yn ateb tymor hir. Mae nhw wedi cyhoeddi adroddiad ar dlodi trafnidiaeth yng Nghymru, dan y teitl Rhwystro Mynediad.

Dywedodd Alun Thomas o Gyngor ar Bopeth: “Mae effaith tlodi trafnidiaeth ar fywydau pobl yng Nghymru yn bellgyrhaeddol.

“Mae prisiau uchel tanwydd yn cael effaith enbyd ond nid yw Cyngor ar Bopeth o’r farn y bydd gostwng y dreth neu’r prisiau yn cynnig ateb tymor hir. Yn hytrach mae angen i ni gynnig dewisiadau trafnidiaeth fforddiadwy, hyblyg ac amgen i bawb.”