Mae mam ifanc a’i phartner wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio eu mab 4 oed.

Cafodd y plentyn ei ddarganfod yn anymwybodol yn ei gartref yn ardal Holbrooks yn Coventry ddydd Sadwrn. Bu farw o anaf i’w ben, meddai’r heddlu.

Mae’r dyn 32 oed a’r ddynes 26 oed yn cael eu cadw yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ddydd Llun.