Remploy
Mae Remploy wedi cyhoeddi heddiw y gallai 36 o’u 54 ffatri gau, gyda diswyddiadau gorfodol o hyd at 1,700 o weithwyr anabl yn bosib.
Mae’r Gweinidog dros Bobol Anabl, Maria Miller, wedi dweud fod y bwrdd yn cynnig cau’r canolfannau erbyn diwedd y flwyddyn gan eu bod yn annhebygol o allu cynnal eu hunain yn ariannol yn annibynnol.
Dywedodd bod y gyllideb gwerth £320 miliwn ar gyfer cyflogi pobol anabl wedi cael ei ddiogelu – ond y byddai nawr yn cael ei wario’n fwy effeithlon.
Mae’r adroddiadau’n awgrymu y gallai saith o naw ffatri Remploy yng Nghymru gael eu heffeithio gan y toriadau, sef eu canolfannau yn Aberdâr, Abertyleri, Penybont, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam. Y gred yw bod eu canolfannau yn y Porth a Chastell-nedd heb eu heffeithio.
Mae Remploy yn cyflogi 281 o weithwyr yng Nghymru i gyd, ac mae 272 o’r rheiny yn bobol anabl.
Ymgynghori
Wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw, dywedodd yr Adran Waith a Phensiynau fod eu pwyslais ar gefnogi unigolion, nid sefydliadau, ac y byddai’r gyllideb nawr yn helpu pobol anabl ddod o hyd i swyddi ar draws y diwydiannau yn gyffredinol.
Mewn datganiad gan Remploy y prynhawn yma, dywedodd y cwmni eu bod nhw “nawr yn mynd i ymgynghori gyda’r undebau llafur a’r fforymau rheoli ar y cynnig i gau 36 o’u ffatrioedd sydd ddim yn cael eu hystyried yn fasnachol hyfyw yn 2012, ac ar y diswyddo gorfodol posib o 1,752 o weithwyr sy’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gysylltiedig â’r busnesau hyn.”
Mae disgwyl datganiad brys ar y mater yn y Senedd ym Mae Caerdydd y prynhawn yma.