Prif Gwnstabl Ian Arundale
Mae Awdurdod Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi bydd y Prif Gwnstabl Ian Arundale yn ymddeol yr haf hwn ar ôl gwasanaeth o 32 mlynedd fel heddwas, a phedair blynedd wrth y llyw yn Nyfed Powys.
“Y pedair blynedd olaf oedd y rhai mwyaf heriol yn hanes Heddlu Dyfed Powys,” meddai Ian Arundale.
“Yn yr amser hwn, mae’r Heddlu wedi gweld newidiadau pwysig i’n strwythurau ni a’r ffordd rydym ni’n cyflawni ein gwasanaethau.
“Mae’r perfformiadau wedi bod yn arbennig, er gwaethaf yr amharu a achoswyd gan yr angen i gwtogi £13 miliwn oddi ar ein cyllideb. Bu sawl llwyddiant, yn fwyaf arbennig sicrhau bod llofrudd mwyaf drwg-enwog Cymru, John William Cooper, yn cael ei erlyn a’i garcharu.”
Dywedodd Delyth Humfryes, MBE Cadeirydd Awdurdod Heddlu Dyfed Powys,
“Mae IanArundale yn berson abl tu hwnt sydd wedi sicrhau bod Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ostwng lefelau trosedd, er gwaetha’r heriau ariannol a’r newidiadau rydym yn eu hwynebu, ac ymhlith yr heddluoedd gorau yng Nghymru a Lloegr am ddatrys troseddau”.
Bydd Awdurdod Heddlu Dyfed Powys yn cyhoeddi eu trefniadau ar gyfer penodi olynydd i Ian Arundale maes o law.