Carwyn Jones
Tra bod Carwyn Jones yn paratoi at ei genhadaeth fusnes i’r Unol Daleithiau heddiw, mae’r Ceidwadwyr eisoes wedi dechrau gofyn pam nad oedd Prif Weinidog Cymru wedi cychwyn ei daith o faes awyr yng Nghymru.
Mae’r Ceidwadwyr yn hen gyfarwydd â chwestiynu ymgyrchoedd busnes Llywodraeth Cymru, ond mae cyfaddefiad y Prif Weinidog mai o Heathrow y byddai ei daith busnes ddiweddaraf i hyrwyddo Cymru ar draws y dŵr yn dechrau, wedi rhoi hwb ychwanegol i’r holi.
Bydd Carwyn Jones yn treulio’r pump diwrnod nesaf yn yr Unol Daleithiau, fel rhan o daith lle mae’n gobeithio argyhoeddi diwydiannau twristiaeth, amddiffyn, cerbydau a gwyddorau bywyd y wlad fod Cymru yn barod i wneud busnes.
‘Ni ddylid disgwyl pethau mawr’
Ond mae arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad, Andrew RT Davies, yn rhybuddio na ddylid disgwyl pethau mawr o’r ymgyrch, gan ddweud fod y Prif Weinidog Carwyn Jones eisoes wedi ceisio, a methu, mewn ymgyrchoedd tebyg yn y gorffennol.
“Dwi wir yn gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gwella ar y methiant sydd wedi bod o ran buddsoddiad mewnol i Gymru o dan Lywodraeth Lafur, a dw i yn dymuno’r gorau iddo,”meddai.
“Ond mae’n rhaid i fi ddweud, wrth edrych ar ei record o ymwneud â’r llywodraethau hynny – dyw e ddim yn drac record da.”
Heathrow nid Caerdydd
Roedd Carwyn Jones yn hedfan i America o Heathrow y bore ’ma – cyfaddefiad y mae Andrew RT Davies yn dweud sy’n dystiolaeth o’r ddiffyg gweledigaeth i Gymru. Roedd arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad yn awgrymu y gallai’r Prif Weinidog fod wedi hedfan o Gaerdydd i Amsterdam, ac yna draw i’r Unol Daleithiau.
Ond wrth gael ei holi ar y mater yng nghwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf, fe gadarnhaodd Carwyn Jones mai awyren o Heathrow fyddai’n ei gludo i America.
“Pa fath o hyder yw hynny mewn cysylltiadau trafnidiaeth yma yng Nghymru?” gofynnodd Andrew RT Davies ddoe.
Mae’r Ceidwadwyr nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy ym maes awyr Caerdydd, fel bod teithwyr yn medru hedfan yn syth o brif ddinas Cymru i’r Unol Daleithiau.
‘Datblygu Caerdydd’
Wrth drafod y mater ar drothwy taith Prif Weinidog Cymru o Heathrow, dywedodd Andrew RT Davies bod angen gwneud mwy i ddatblygu’r cyfleusterau sydd eisoes ar gael yng Nghaerdydd.
“Mae yna gyfleusterau yn barod i gael eu rhoi ar waith ym maes awyr Caerdydd, gyda llain glanio yno’n barod i gynnal gwasanaeth awyr ar draws yr Iwerydd,” meddai.
“Ond oherwydd diffyg ymroddiad Llywodraeth Cymru, does ganddon ni ddim o’r gwasanaeth awyr yna, na’r cysylltiad yna draw i Ogledd America. I fi, mae hynny’n dangos yn glir y lefel o ymroddiad sydd gan Lywodraeth Cymru tuag aton ni.”
‘Angen i Gaerdydd wella’u gwasanaeth’
Wrth ymateb i feirniadaeth y Ceidwadwyr yng nghwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Carwyn Jones fod cyswllt uniongyrchol yn rhywbeth “yr hoffwn ni ei weld, ond y gwir amdani yw y bydden ni’n hoffi gweld llawer o lwybrau yn tyfu o faes awyr Caerdydd, ond rhaid i’r maes awyr gael trefn arno’i hun yn gyntaf.
“Yr wythnos ddiwethaf, fe fues i i’r maes awyr ac roedd y brif fynedfa ar gau. Doedd pobol ddim yn gallu mynd i mewn drwy’r brif fynedfa, a bu’n rhaid iddyn nhw fynd drwy’r fynedfa ochr. Mae’n bwysig bod y maes awyr yn rhoi ei hun mewn sefyllfa lle mae’n atyniadol i gwmnïau awyrennau newydd, ond, yn anffodus, dydi hynny ddim yn wir ar y funud,” meddai.
Dywedodd hefyd fod arbrawf maes awyr Bryste yn profi nad yw’r cyswllt uniongyrchol yn un sy’n gynaliadwy ar hyn o bryd.
Yn ôl Carwyn Jones, mae “llawer mwy o waith i’w wneud ar isadeiledd y maes awyr, yn fy marn i, er mwyn ei wneud yn atyniadol i gwmnïau awyrennau, yn hytrach na dim ond ystyried cyflwyno llwybrau newydd a thalu amdanynt. Yn y pen draw, dydi hynny ddim yn creu llwybrau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”