Bydd ymgyrch yr SNP o blaid annibyniaeth i’r Alban yn dechrau ym mis Mai – dwy flynedd cyn y refferendwm, cyhoeddodd Alex Salmond heddiw.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban nad yr SNP yn unig fydd yn cynnal yr ymgyrch, ond “ystod eang” o gefnogwyr, undebau a chyflogwyr.

Ychwanegodd ei fod eisiau ymgyrch hir, er mwyn sicrhau fod gan bobol yr Alban yr atebion i bob un o’r cwestiynau ynglŷn â sgil effeithiau annibyniaeth.

Dywedodd nad oedd gelynion annibyniaeth yn gallu cytuno ar unrhyw beth ond yr angen i ddweud ‘na’.

“Dyw’r ymgyrch ‘na’ ddim wedi cyflwyno unrhyw fath o ddadl. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn siŵr beth yw eu dadl,” meddai.

“Mae’n bwysig fod gennym ni amser i ateb yr holl gwestiynau erbyn y refferendwm. Erbyn 2014 mae angen i bawb wybod yn union beth fydd oblygiadau’r penderfyniad.

“Rydw i’n credu ein bod ni’n mynd i ennill y refferendwm. Rydw i mor ffyddiog rydw i’n barod i ddechrau’r ymgyrch ‘ie’ yn fuan ar ôl yr etholiadau lleol.

“Fe fydd ein hymgyrch ni’n un cadarnhaol, yn wahanol i ymgyrch negyddol ein gwrthwynebwyr.”

£ neu €

Dywedodd ei fod bellach yn credu y bydd yr Alban yn cadw’r bunt yn hytrach nag ymuno â’r Ewro.

“Mae’r ffeithiau wedi newid, felly mae fy marn i wedi newid,” meddai.

Byddai yn gwneud synnwyr i’r Alban gadw’r bunt gan fod economi’r wlad ac economi gweddill y Deyrnas Unedig yn debyg iawn, yn wahanol i economïau gwledydd parth yr ewro, meddai.

Ychwanegodd na fyddai’n rhaid i’r Alban ymuno â’r Undeb Ewropeaidd drachefn ar ôl gadael y Deyrnas Unedig.